Disgwyl 'r wyf ar hyd yr hirnos
Dysgwyl 'rwyf ar hyd yr hir(-)nos
Dysgwyl wyf ar hyd yr hirnos

(Dysgwyliad)
         1,(2),3;  1,3,4.

Disgwyl 'r wyf ar hyd yr hirnos
  Disgwyl am y bore-ddydd;
Disgwyl clywed pyrth yn agor
  A chadwynau'n mynd yn rhydd;
    Disgwyl golau
  Pur yn nhwllwch
        tew'r nos.

Datod, Arglwydd, fy nghadwynau,
  Rho fy enaid gwan yn rhydd;
Tyn fi 'nawr o'r pydew tywyll,
  I gael gweled goleu'r dydd:
    Seren fore, 
  Cyfod dros y bryniau draw.

Daw fe ddaw y wawr wen olau,
  Y bo'r cwmwl du yn ffoi,
Tarth a niwl yn cyd-ddiflannu
  Ag oedd wedi cyd-grynhoi;
    Dyma'r oriau
  Wy'n eu gweled draw trwy ffydd.

Byth i'r Tad y bo gogoniant,
  Clod a moliant, parch a bri,
Ac i'r Mab a'r Sanctaidd Ysbryd,
  Heb wahân yn Un a Thri;
    Byth heb ddiwedd,
  Fel o'r dechrau,
               seinia'u clod.
y wawr wen olau :: y wawrddydd oleu
           - - - - -

Dysgwyl 'rwyf ar hyd yr hir-nos
  Hiraethu am y bore ddydd;
Dysgwyl clywed pyrth yn agor,
  A chadwynau'n myn'd yn rhydd;
    O! na wawriai,
  Bore hyfryd Jubili.

Dysgwyl wnaf er hyn yn dawel,
  Ac mi greda'n gryf y daw,
Eiddil gwan o'i holl flinderau,
  Yn ddiangol yn dy law;
    Mi ddysgwyliaf,
  Am yr hyfryd Jubili.

            - - - - -

Dysgwyl 'rwyf ar hyd yr hirnos,
  Dysgwyl am y bore ddydd;
Dysgwyl clywed pyrth yn agor,
  A chadwynau'n myn'd yn rhydd:
    O na wawriai
  Bore hyfryd Jubili.

Os agori di fy llygaid
  I gael gwel'd y cariad llawn,
Lifodd allan fel y moroedd
  Ar Galfaria un prydnawn,
    Ti gai'r cwbl
  Roddaist imi yn fy rhan.

[Mi ddysgwyliaf, doed a ddelo,
   Deued bore, deued nos,
 Deued corwynt a thymhestloedd,
   Nes cael profi
       gwaed y groes:
     Gwel'd dy glwyfau
   Yw'r ddedwyddaf awr i mi.]

            - - - - -
          1,2,(3,4),5,6.

Dysgwyl wyf ar hyd yr hirnos,
  Dysgwyl am y boreu ddydd,
Dysgwyl clywed pyrth yn agor,
  A chadwyni'n myn'd yn rhydd:
    Dysgwyl goleu
  Pur yn nh'wyllwch
        tewa'r nos.

Nid oes arnaf faich yn gorphwys,
  Dim ond eisieu dy fwynhau;
Nid oes arall dan y nefoedd
  All yn hollol fy iachâu;
    Rho dy gwm'ni,
  Cyn im' fyn'd i'r cefnfor glas.

Tyn yr ofnau hên o farw
  Sydd yn llechu tan fy mron;
Rho im' heddwch a gorfoledd,
  Tra f'wyf ar y ddaear hon;
    Na therfysged,
  F'enaid gwan y'ngrym y dw'r.

Dyma'n gwbl fy neisyfiad,
  I mi gael bod yn dy gôl,
Er na theithiais etto nemawr,
  Na'd fi dynnu hynny'n ol,
    Gwna im' gadw,
  'Ngolwg tua'r hyfryd wlad.

Dal fy llygad, dal heb wyro,
  Dal ef ar dy addewid wir;
Dal fy nhraed heb gynnyg ysgog
  Allan o dy gyfraith bur;
    Boed d'orch'mynion
  Imi'n gysur ac yn hedd.

Mi gaf yn y wlad wy'n myned,
  Ddiengu'n lân i maes o'm poen,
Gorphwys draw i derfyn gofid,
  Gyda'r addfwyn anwyl Oen;
    Ni ddaw tristwch
  Byth i fewn dros furiau'r nef.

            - - - - -

Dysgwyl wyf ar hyd yr hirnos,
  Dysgwyl am y bore ddydd;
Dysgwyl clywed pyrth yn agor,
  A chadwynau'n myn'd yn rhydd:
    O! na wawriai
  Bore hyfryd Iubili.

Datod, Arglwydd, fy nghadwynau,
  Rho fy enaid gwan yn rhydd;
Tyn fi 'nawr o'r pydew tywyll,
  I gael gweled goleu'r dydd:
    Seren fore, 
  Cyfod dros y bryniau draw. 

Tyred fore tawel, hyfryd,
  Tyred happus ddedwydd ddydd,
Pan fo'r dorau pres yn agor -
  Carcharorion mwy yn rhydd:
    Rho arwyddion
  O fod hyny yn nesau.

Tyr'd, yr Hwn wyt yn hawddgarach
  Na'th greaduriaid aml eu rhi';
'Bryd y deui i breswylio
  Bob mynydyn gyda mi?
    Tyr'd yn fuan,
  Lord, at y sawl a'th gâr.
William Williams 1717-91

Tonau [878747]:
Catherine (D Roberts 1820-72)
St Peter (alaw Eglwysig)
Iolaeth (<1835)

gwelir:
  'Cheisiais Arglwydd ddim ond hyny
  Dal fy llygad dal heb wyro
  Maith yw'r nos a mawr yw'r t'wllwch
  Mi feddyliais yn y bore
  Nad i'r gwyntoedd cryf dychrynllyd
  Nid oes arnaf faich yn gorphwys
  Pan bwy'n profi pleser yma

(Expectation)
 

Waiting I am all the night long
  Waiting for the morn of day;
Waiting to hear the portals opening
  And chains going loose;
    Expecting pure
  Light in the thick darkness
        of the night.

Undo, Lord, my chains,
  Set my weak soul free;
Draw me now from the dark pit,
  To get to see the light of day:
    Morning Star,
  Rise over yonder hills!

Yes, the light bright dawn will come
  May the black clouds flee,
Mist and fog disappear together
  That had gathered together;
    Here are the hours
  I see coming yonder through faith.

Forever to the Father be glory,
  Acclaim and praise, reverence and renown,
And to the Son and the Holy Spirit,
  Without separation as One and Three,
    Forever without end,
  And from the beginning,
        sound their acclaim.
the light bright dawn :: the light dawn of day
                 - - - - -

Waiting I am throughout the long night
  Longing I am for the morn of day;
Waiting to hear the portals opening,
  And chains becoming loose;
    O that would dawn,
  The delightful morn of Jubilee!

Waiting I am despite this quietly,
  And I believe strongly to come,
Feeble, weak, from all its afflictions,
  Safely in thy hand;
    I will wait,
  For the delightful Jubilee.

                 - - - - -

Waiting I am throughout the long night
  Longing I am for the morn of day;
Waiting to hear the portals opening,
  And chains becoming loose;
    O that would dawn,
  The delightful morn of Jubilee!

If thou open my eyes
  To get to see the full love,
Which flowed out like the seas
  On Calvary one afternoon,
    Thou shalt get the whole
  Thou gavest to me as my portion.

[I will wait, come what may,
   Come morning, come night,
 Come hurricane and tempests,
   Until getting to experience
       the blood of the cross:
     Seeing thy wounds
   Is the happiest hour for me.]

                  - - - - -


Waiting I am throughout the long night,
  Waiting for the morn of day,
Waiting to hear the portals opening,
  And chains becoming loose:
    Waiting for the pure
  Light in the thickest darkness
        of the night.

There is no burden upon me in rest,
  Only wanting to enjoy thee;
There is nothing else under the heavens
  Which can completely heal me;
    Grant thy company,
  Before I go to the blue high sea.

Take away the old fear of dying,
  Which is lurking under my breast;
Grant me peace and joy,
  While ever I am on this earth;
    Do not let my weak soul be
  In a tumult in the force of the water.

This is the whole of my supplication,
  For me to get to be in thy bosom,
Although I have not travelled yet at all,
  Do not let me draw back from this,
    Make me keep
  My gaze towards the delightful land.

Keep my eye, keep from wandering,
  Keep it on thy true promise;
Keep my feet from an attempt to move
  Out of thy pure law;
    Let thy commands be
  To me as comfort and as peace.

I may get in the land to which I am going,
  To escape completely out of my pain,
To rest beyond the end of worry,
  With the gentle, dear Lamb;
    No sadness shall come
  Ever within over the walls of heaven.

                 - - - - -

Waiting I am throughout the long night,
  Waiting for the morn of day;
Waiting to hear the portals opening,
  And chains going loose:
    Oh that the morn
  Of delightful Jubilee would dawn!

Undo, Lord, my chains,
  Set my weak soul free;
Draw me now from the dark pit,
  To get to see the light of day:
    Morning Star,
  Rise over yonder hills!

Let the quiet, delightful morning come, 
  Let the happy, blissful day come,
When the doors of brass should open -
  Prisoner henceforth free:
    Give signs
  Of this being drawing near.

Come, Thou who art more beautiful
  That thy creatures of manifold number;
When wilt thou come to reside
  Every minute with me?
    Come soon,
  Lord, to those who love thee!
tr. 2014,15 Richard B Gillion
(Jubilee)
 

I am through the lone night waiting,
  For the dawning of the day,
When my prison door is opened,
  When my fetters fall away.
    O come quickly,
  Happy day of Jubilee!























 
              - - - - -

I am through the lone night waiting,
  For the dawning of the day,
When my prison door is opened,
  When my fetters fall away.
    O come quickly,
  Happy day of Jubilee!

Let me still be meekly wakeful,
  Trusting that to all my woes,
By thy mighty hand, Redeemer,
  Shall be given a speedy close:
    Keep me watching,
  For the joyful Jubilee.

              - - - - -

I am through the lone night waiting,
  For the dawning of the day,
When my prison door is opened,
  When my fetters fall away.
    O come quickly,
  Happy day of Jubilee!















              - - - - -



I am through the lone night waiting,
  For the dawning of the day,
When my prison door is opened,
  When my fetters fall away.
    O come quickly,
  Happy day of Jubilee!





































              - - - - -

I am through the lone night waiting,
  For the dawning of the day,
When my prison door is opened,
  When my fetters fall away.
    O come quickly,
  Happy day of Jubilee!



















 

Joseph Morris (Favourite Welsh Hymns 1854)

Tune [878747]: Catherine (D Roberts 1820-72)

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~